Math | volcanic island |
---|---|
Prifddinas | San Sebastián de La Gomera |
Poblogaeth | 21,153 |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canary Islands |
Lleoliad | Cefnfor yr Iwerydd |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 370 km² |
Uwch y môr | 1,484 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 28.115°N 17.225°W |
Un o'r saith ynys sy'n ffurfio'r Ynysoedd Dedwydd (Canarias) yn Sbaen yw La Gomera. Saif ychydig i'r gorllewin o Tenerife. Mae'n un o'r lleiaf o'r ynysoedd sydd a phoblogaeth arnynt, gydag arwynebedd o 378 km² a phoblogaeth o 21,220 yn 2004.
Fe'i rennir yn chwe cymuned:
Mae'r ynys bron yn gron, tua 24 km ar ei thraws. Y copa uchaf yw Garajonay, 1,487 medr o uchder. Enwyd Parc Cenedlaethol Garajonay yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Galwodd Christopher Columbus yma yn 1492, y tir olaf iddo lanio arno cyn croesi'r Iwerydd ar ei ffordd i ddarganfod y Byd Newydd. Mae'r tŷ yn San Sebastián lle bu'n aros yn atyniad i dwristiaid.